Gwyl 2022

Yn ystod wythnos 11-16 Medi 2022, i gyd-fynd â mis Drysau Agored Cadw, byddwn yn dathlu lansio Llwybr Pererindod Gŵyr gydag wythnos Gŵyl Pererindod arbennig. Bydd hyn yn cynnwys taith tywys ar hyd rhan o’r Llwybr yn ystod y dydd, gyda’r eglwysi ar agor i ymwelwyr ar hyd y ffordd, yn cynnig lluniaeth, gwybodaeth a gweithgareddau. Bydd pob dydd yn dod i ben gyda gwasanaeth hwyrol neu ddathliad yn yr eglwys a gyrhaeddir ar ddiwedd taith y diwrnod hwnnw. Bydd y nosweithiau hyn yn cynnwys thema’n ymwneud â phererindod e.e. gwasanaeth addoli mewn arddull Geltaidd neu sgwrs â darluniau ar bererindod drwy’r oesoedd, a bydd yr Ŵyl yn dod i ben gyda Chymanfa Ganu ddwyieithog yn eglwys Sant Teilo, Llandeilo Ferwallt, nos Wener 16 Medi, dan arweiniad Alun Tregelles Williams.

Mae rhaglen fanwl yma (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd).

%d bloggers like this: