Llwybr Pererindod Gŵyr : Cyfarwyddiadau’r Llwybr Seiclo
Cyfanswm pellter : 42 milltir
Pen-clawdd i Wernffrwd (Sant Gwynour i Dewi Sant)
Hyd y rhan: 3.01 milltir Amser: 18 munud
- O gât Eglwys Sant Gwynour, ewch i’r dde ar Lôn yr Eglwys ac yna i’r chwith ar Blue Anchor Road ac i’r dde ar Victoria Road sy’n disgyn yn serth.
- Ar y gyffordd-T 0.9 milltir, trowch i’r chwith ar y B4295, arwydd Crofty.
- Ar ôl 1.70 milltir, trowch i’r dde o Lôn Pencaerfenni, cadwch i’r dde ar Forge Road a chadwch i’r dde ar ôl 2.18 milltir ar Marsh Road.
- Ar ôl 3.01milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Dewi Sant ar y chwith
Wernffrwd i Lanrhidian (Dewi Sant i Sant Rhydian a Sant Illtyd)
Hyd y rhan: 1.85 milltir Amser: 11 munud
- O Eglwys Dewi Sant, parhewch ar Marsh Road i gyfeiriad Llanrhidian.
- Dilynwch y ffordd ar Mill Lane a heibio i’r Welcome Inn ar y chwith wrth fynd i fyny’r rhiw.
- Ar ôl 1.85 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Rhydian ar y dde.
Llanrhidian i Cheriton (Sant Rhydian i Sant Cadog)
Hyd y rhan: 3.41 milltir Amser: 21 munud
- O Eglwys Sant R
- O Eglwys Sant Rhydian, parhewch i fyny’r rhiw am 0.81m at y gyffordd-T gyda’r B4295. Trowch i’r dde, arwydd Llangynydd.
- Ar ôl 0.94 milltir, yn Oldwalls, trowch i’r dde ar y fforch, a dilyn y ffordd hon i Cheriton.
- Mae’r ffordd yn serth i lawr i Cherition, ar ôl 3.41 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Cadog ar y dde.
Cheriton i Lanmadog (Sant Cadog i Sant Madog)
Hyd y rhan: 0.81 milltir Amser: 5 munud
- O Eglwys Sant Rhidian, parhewch drwy bentref Cheriton, heibio i’r Britannia Inn ar y dde.
- Parhewch i fyny’r rhiw serth a thrwy bentref Llanmadog.
- Ar ôl 0.81 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Madog.
Llanmadog i Langynydd (Sant Madog i Sant Cenydd)
Hyd y rhan: 3.10 milltir Amser: 18 munud
- O Eglwys Sant Madog, ewch i’r cyfeiriad arall ac yn ôl i waelod y rhiw serth ger y Britannia Inn, trowch i’r dde i fyny’r rhiw serth ar Kyfts Lane. Cadwch ar y ffordd hon tan i chi gyrraedd cyffordd-T
- Ar ôl 1.63 milltir, trowch i’r dde wrth y gyffordd-T, arwydd Llangynydd.
- Parhewch i waelod y rhiw serth tan fod y Kings Head ar y dde yn Llangynydd. Mae’r Eglwys gyferbyn â’r dafarn.
- Ar ôl 3.1 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Cenydd ar y chwith.
Llangynydd i Reynoldston (Sant Cenydd i Sant Siôr)
Hyd y rhan: 3.96 milltir Amser: 24 munud
- O Eglwys Sant Cenydd, ewch yn ôl ar yr un ffordd am 2.15 milltir i Burry Green.
- Yn Burry Green, trowch i’r dde, arwydd Llanddewi.
- Ar ôl 2.48 milltir, cadwch i’r chwith ar y fforch i Reynoldston, gan ddilyn y ffordd tan i chi gyrraedd 3.85 milltir.
- Ar ôl 3.85 milltir, trowch i’r dde wrth Swyddfa’r Post i Robbins Lane, ar waelod y lôn hon ceir croesffordd, trowch i’r dde tuag at yr Orsaf Dân.
- Ar ôl 3.96 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Siôr ar y dde.
Reynoldston i Landdewi (Sant Siôr i Dewi Sant)
Hyd y rhan: 1.79 milltir Amser: 12 munud
- O Eglwys Sant Siôr, ewch yn ôl dros y groesffordd ar Robbins Lane at y gyffordd-T, trowch i’r dde a dilyn y ffordd hon hyd at y gyffordd-T â’r A4118.
- Wrth y gyffordd-T, trowch i’r dde, arwydd Porth Einon.
- Dilynwch yr A4118 drwy Lan-y-tair-mair
- Ar ôl 1.47 milltir, trowch i’r dde, arwydd Llanddewi.
- Ar ôl tua 250 llath, trowch i’r chwith, arwydd Eglwys Dewi Sant
- Ar ôl 1.79 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Dewi Sant ar y dde.
Llanddewi i Rosili (Dewi Sant i Santes Fair)
Hyd y rhan: 4.68 milltir Amser: 30 munud
- O’r Eglwys, ewch yn ôl i’r TJ gyda’r A4118
- O’r Eglwys, ewch yn ôl i’r gyffordd-T gyda’r A4118
- Ar ôl 0.32 milltir, trowch i’r dde, arwydd Porth Einon
- Ar ôl 1.21 milltir yn Scurlage, trowch i’r dde ar y B4247, arwydd Rhosili
- Parhewch ar y B4247 i Rosili
- Ar ôl 4.68 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys y Santes Fair ar y dde.
Rhosili i Borth Einon (Santes Fair i Sant Catwg)
Hyd y rhan: 5.03 milltir Amser: 30 minud
- O Rosili, ewch yn ôl ar y B4247 am 3.5 milltir at y gyffordd-T yn Scurlage
- Ar y gyffordd-T, trowch i’r dde ar yr A4118, arwydd Porth Einon
- Ceir rhiw serth i lawr i Borth Einon, ac ar ôl 5.03 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Catwg ar y chwith.
Porth Einon i Ben-rhys (Sant Catwg i Sant Andreas)
Hyd y rhan: 3.11 milltir Amser: 25 munud
- O’r Eglwys ewch yn ôl ar y A4118 i fyny’r rhiw am 0.9 milltir.
- Ar ôl 0.9 milltir, trowch i’r dde, arwydd Horton
- Ar ôl 2.95 milltir, trowch i’r chwith, arwydd Pen-rhys.
- Ar ôl 3.11 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Andreas ar y Llain ar y dde.
Pen-rhys i Oxwich (Sant Andreas i Sant Illtyd)
Hyd y rhan: 1.4 milltir Amser: 12 munud
- O’r Eglwys, ewch i’r chwith yn ôl at y gyffordd fforch
- Cadwch i’r chwith, arwydd Oxwich, a pharhau ar y ffordd hon i lawr i mewn i Oxwich.
- Ar ôl 1.19 milltir, wrth y groesffordd ym Mhentref Oxwich, ewch yn syth ymlaen, arwydd Gwesty Oxwich Bay a’r Eglwys.
- Ewch heibio i’r Gwesty at ddechrau’r llwybr troed. Tua 250 llath i fyny’r llwybr, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Illtyd.
Oxwich i Nicholaston (Sant Illtyd i Sant Nicholas)
Hyd y rhan: 2.17 milltir Amser: 15 munud
- Ewch yn ôl heibio’r Gwesty i’r groesffordd yn y pentref, trowch i’r dde heibio i Siop Anrhegion Dunes a pharhau i fyny’r rhiw serth at y gyffordd-T â’r A4118 ar ôl 1.51 milltir.
- Wrth y gyffordd-T, trowch i’r dde ar yr A4118
- Ar ôl 2.17 milltir, byddwch yn cyrraedd Sant Nicholas ar y dde.
Nicholaston i Ben-maen (Sant Nicholas i Sant Ioan)
Hyd y rhan: 1.31 milltir Amser: 9 munud
- O’r Eglwys, parhewch ar y A4118 am 1.31 milltir
- Byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Ioan ar y chwith.
Pen-maen i Lanilltud Gŵyr (Sant Ioan i Sant Illtyd)
Hyd y rhan: 2.04milltir Amser: 15 munud
- O’r Eglwys, parhewch ar y A4118 am 0.84 milltir i Siop Gyffredinol Shepherds.
- Wrth Shepherds, trowch i’r chwith yn syth i fyny’r rhiw serth iawn i gyfeiriad Lunnon
- Ar ôl 1.27 milltir, trowch i’r dde, arwydd Llanilltud Gŵyr a Lunnon
- Ar ôl 2.04 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys Sant Illtyd ar y dde dros y nant.
Llanilltud Gŵyr i Bennard (Sant Illtyd i Santes Fair)
Hyd y rhan: 3.1 milltir Amser: 20 munud
- Dychwelwch drwy Lunnon i’r gyffordd-T ar y A4118 ger Shepherds 1.16 milltir
- Wrth y gyffordd-T gyda’r A4118, trowch i’r chwith, heibio i’r Gower Inn ar y chwith
- Ar ôl 2.53 milltir, trowch i’r dde ar y B4436 Vennaway Lane
- Ar ôl 3.1 milltir, byddwch yn cyrraedd Eglwys y Santes Fair ar y dde ar y gyffordd-T wrth Pennard Road.
Pennard i Landeilo Ferwallt (Santes Fair i Sant Teilo)
Hyd y rhan: 1.0 mile Amser: 6 munud
- O’r Eglwys a’r gyffordd-T â Pennard Road, trowch i’r chwith i gyfeiriad Kittle
- Ar ôl mynd heibio i’r Beaufort Arms yn Kittle, trowch i’r dde ar ffordd gul gudd, Old Kittle Road.
- I lawr y rhiw serth, ceir Rhyd. Cerddwch dros y bont at yr Eglwys ar y dde