map cerdded Llanilltud Gŵyr i Bennard

Cyfarwyddiadau’r llwybr

  1. O gyntedd yr eglwys yn Llanilltud Gŵyr, ewch i’r chwith drwy ran ddiweddarach y fynwent a thrwy gât i Gwm Llanilltud Gŵyr.
  2. Dilynwch y llwybr i lawr drwy’r cwm i gyfeiriad Parkmill, gan groesi 7 pont, heibio i adfail Eglwys y Bedyddwyr Llanilltud Gŵyr ar y chwith wrth i chi agosau at Parkmill. Hon oedd Eglwys gyntaf y Bedyddwyr i’w chofnodi yng Nghymru, ac mae iddi hanes diddordol yn dyddio’n ôl i 1649.
  3. Mae’r llwybr yn cyfarfod â phrif ffordd De Gŵyr (A4118) wrth gât, gyda’r Gower Inn ar y chwith. Ewch drwy’r gât, troi i’r dde a cherdded am o ddeutu 30 llath. Does dim palmant yma felly byddwch yn ofalus. Croeswch y ffordd a chroesi’r bont dros y nant.
  4. Trowch i’r dde ac wrth y gyffordd, dilynwch y ffordd (Sandy Lane) i’r chwith i fyny rhiw serth.
  5. Lle mae’r ffordd yn gwyro i’r chwith, ewch ar y ffordd anorffenedig yn syth ymlaen tan i chi gyrraedd ffordd o’r enw Linkside. Trowch i’r dde yn Linkside a chroesi’r brif ffordd rhwng Pennard a Southgate wrth ymyl Ysgol Pennard.
  6. Ewch yn syth ymlaen wrth yr arwydd Llwybr Cyhoeddus ac yna dilynwch y llwybr i’r dde, o amgylch tir yr ysgol. Peidiwch â mynd drwy’r gât i’r caeau chwarae ond trowch i’r chwith a chyrraedd camfa ar ôl 50 llath.
  7. Croeswch y gamfa a pharhau’n syth ymlaen drwy 3 chae gyda 3 camfa arall a dilynwch y llwybr drwy goedwig.
  8. Ewch drwy’r gât i gae ac allan o’r cae drwy gât ar yr ochr dde.
  9. Trowch i’r chwith a dilyn y llwybr ceffyl drwy Fferm Hael ac yna’n ôl i lawr drwy’r coed i Gwm Llandeilo Ferwallt.
  10. Wrth gyrraedd y nant, trowch i’r chwith, gydag arwydd Llandeilo Ferwallt a Kittle.
  11. Trowch i’r chwith wrth gyffordd y llwybrau, i fyny’r rhiw at y ffordd yn Widegate.
  12. Parhewch yn syth ar hyd y ffordd tan i chi gyrraedd y ffordd yn Pennard.
  13. Croeswch y ffordd yn ofalus ac mae Eglwys Pennard ar y chwith.
%d bloggers like this: