Cyfarwyddiadau’r llwybr
- O fynwent eglwys Llanddewi, trowch i’r chwith ar hyd y trac. Ar y tro i’r chwith, lle ceir arwydd Llwybr Cyhoeddus a charreg farcio Llwybr Gŵyr, ewch dros y gamfa garreg, ac ar hyd y llwybr troed i’r dde, gan gadw’r gwrych ar y dde.
- Ewch dros gamfa (sy’n edrych fel gât) a pharhewch yn syth ymlaen drwy’r cae a thrwy gât yn y pen draw.
- Cerddwch i lawr drwy brysgwydd a throwch i’r dde ar hyd trac y fferm (sy’n agos iawn at y ffordd rhwng Llan-y-tair-mair a Scurlage).
- Pan gyrhaeddwch ddwy gât fferm nesaf at ei gilydd, ewch drwy’r gât ar y chwith ac ar ongl drwy’r cae, gan anelu at y tai sydd i’w gweld yn y pellter.
- Ewch dros gamfa sydd wedi torri, ac yn syth ar draws y cae ŷd.
- Trowch i’r chwith ar ben draw’r cae, a dilyn trac y fferm heibio i dŷ fferm Newton ar y chwith.
- Pan fydd y trac yn rhannu, ewch i’r dde a chroesi dros y gamfa.
- Cerddwch yn groes ar draws y cae at gamfa ar y gorwel (heb wrych ar y naill ochr na’r llall i’r gamfa).
- Parhewch i’r un cyfeiriad at y gât yng nghornel bellaf y cae, ger fferm Pilton Green (swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
- Ewch drwy’r gât i gerddwyr a pharhau i gyfeiriad gât arall yn y gornel bellaf ger ysguboriau.
- Ewch dros y gamfa, heibio i’r ysguboriau a thrwy’r buarth i gyrraedd y ffordd rhwng Scurlage a Rhosili (B4247).
- Croeswch y ffordd yn ofalus, cerddwch i’r chwith am rai llathenni ac yna ewch yn syth ymlaen wrth yr arwydd Llwybr Cyhoeddus.
- Parhewch yn syth ar hyd y llwybr troed hwn, gan gadw’r gwrych ar y dde, drwy sawl gât tan i’r môr ddod i’r golwg ac rydych chi’n cyrraedd arwydd Llwybr Arfordir Cymru.
- Wrth arwydd Llwybr Arfordir Cymru, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr uwchlaw’r clogwyni am o ddeutu milltir, tan i Lwybr yr Arfordir droi’n llym i’r dde i lawr y rhiw. Ar y pwynt hwn, ewch yn syth ymlaen ar hyd y trac i gyrraedd pentref Overton.
- Dilynwch y trac, sy’n troi’n ffordd fach, drwy Overton, a throwch i’r dde mewn i Boarlands, ffordd bengaead o fyngalos modern.
- Ar waelod y ffordd, ewch ar y llwybr sydd ar y chwith, sy’n arwain at y ffordd i Borth Einon. Byddwch yn ofalus wrth ymuno â’r ffordd, gan nad oes llwybr troed ar y pwynt hwn.
- Trowch i’r chwith i lawr y ffordd i gyrraedd Eglwys Porth Einon ar y chwith ar waelod y rhiw.
