
Cyfarwyddiadau’r llwybr
- O fynwent eglwys Llangynydd, trowch i’r chwith ac i’r chwith eto i lawr y ffordd tuag at Lain Coety. Ewch yn syth ymlaen lle mae’r llwybrau’n croesi yn union cyn y fferm.
- Wrth fynedfa’r fferm, ewch ar y llwybr ychydig i’r chwith, gan ddringo’r rhiw at Ros Rhosili.
- Pan fyddwch yn cyrraedd fforch yn y llwybrau, ewch ar y llwybr i’r dde i ben y rhiw.
- Ar y gyffordd nesaf, ewch ar y llwybr sy’n fforchio i’r chwith a pharnewch yn syth i fyny’r rhiw ar groesfan o lwybrau ceffyl.
- Ar ben y rhiw, trowch i’r chwith wrth yr arwydd a cherdded ar hyd crib Rhos Rhosili, gyda charneddau ar yr ochr dde a golygfeydd dros y môr i Ben Pyrod.
- Dilynwch y llwybr i lawr y rhiw, o flaen adfail yr orsaf radar o’r Ail Ryfel Byd, lle ceir panel gwybodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar ôl yr orsaf radar, ewch ymlaen i fyny’r rhiw i ailymuno â’r prif lwybr.
- Parhewch ar y llwybr ar hyd brig y rhiw.
- Ar gyffordd o lwybrau, parhewch yn syth ymlaen, gyda Phwynt Triongli’r OS ar y dde.
- Parhewch yn syth ymlaen ac i lawr y rhiw i bentref ac eglwys Rhosili.
