
Cyfarwyddiadau’r llwybr
- Gan adael mynwent eglwys Llanmadog, trowch i’r dde a dilyn y ffordd i fynedfa Parc Hamdden Bae Whiteford. Yn union cyn hyn, dilynwch y llwybr troed ag arwydd sy’n arwain at Ganolfan Gristnogol Sant Madog.
- Ar waelod y rhiw, trowch i’r chwith ar hyd y llwybr troed a arwyddir.
- Ar ôl ychydig o gannoedd o lathenni, mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymuno â’r llwybr, a byddwch yn ei ddilyn am y rhan fwyaf o weddill y rhan hon.
- Ym Mae Broughton, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg y tu ôl i’r twyni, ond mae’n bosibl cerdded ar hyd y traeth yn lle, gan ailymuno â Llwybr yr Arfordir cyn diwedd y bae, lle ceir llwybr concrid drwy’r twyni, sy’n arwain at barc carafanau a man gwyrdd deniadol.
- Ewch heibio’r pyst melyn wrth fynediad y parc carafanau, a pharhewch ar y dreif tarmac drwy’r parc, i fyny’r rhiw a gwyro tua’r dde. Mae diffyg arwyddion ar y pwynt hwn.
- Gadewch y parc carafanau, gan ddilyn y llwybr a nodir gan arwydd Llwybr Arfordir Cymru.
- Ymhen ychydig, mae fforch yn y llwybr. Ewch i’r chwith, sydd ag estyll pren dan draed.
- Dilynwch arwyddion Llwybr yr Arfordir tan iddo ddisgyn i’r traeth ger ynys Burry Holms.
- Mae’n ddiogel croesi i’r ynys am o ddeutu 2.5 awr cyn ac ar ôl y llanw isel, ond byddwch yn ofalus iawn gan fod hon yn ardal beryglus. Ar yr ynys mae gweddillion adfail eglwys garreg o’r 12fed ganrif, a gymerodd le eglwys gynharach y dywedir iddi gael ei hadeiladu gan y meudwy Caradog o Benfro. Roedd clostir mynachaidd canoloesol yno hefyd gyda chysylltiadau â Sant Cenydd, a roddodd ei enw i bentref Llangynydd.
- Parhewch ar hyd Llwybr yr Arfordir, gan anelu tua’r de am ryw filltir, a chroesi nant a elwir yn Diles Lake, tan i chi gyrraedd llwybr llydan drwy’r twyni yn Hill End. Llwybr Arfordir Cymru yw hwn, ond does dim arwyddion da ar y pwynt hwn.
- Dilynwch y llwybr i faes parcio Hill End a cherddwch i fyny’r rhiw at fynediad parc carafanau Hill End.
- Ger mynediad y parc carafanau, trowch i’r chwith a dilyn y ffordd i Langynydd. Rydych chi nawr wedi gadael Llwybr Arfordir Cymru. Ar y gyffordd yn y pentref, trowch i’r dde a dilyn y ffordd drwy’r pentref tan i chi gyrraedd Eglwys Llangynydd. Fel arall, er mwyn osgoi cerdded ar hyd y ffordd o Hill End, dilynwch y llwybr troed gyferbyn â mynedfa’r maes parcio drwy’r caeau i Lain Coety a Llangynydd, gan gyrraedd yr eglwys.
