Cyfarwyddiadau’r llwybr
- Gan ddechrau y tu allan i gyntedd yr eglwys yn Llanrhidian, trowch i’r dde a cherdded drwy’r fynwent at gamfa garreg ar ben draw’r llwybr. Croeswch y gamfa a cherdded am o ddeutu 50 llath i gyrraedd ffordd fach.
- Trowch i’r chwith a cherdded yn ofalus ar hyd y ffordd sydd â chyferbwyntiau’n nodi ei bod yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
- Ar ôl mynd heibio i Fferm Staval Hager ar y dde, mae’r ffordd yn troi’n drac ac yna’n llwybr.
- Parhewch i ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, gan anwybyddu’r arwyddion llwybr cerdded eraill ar y chwith. Mae’r llwybr yn mynd heibio i Gastell Weble sydd uwchlaw ar y chwith, a cheir golygfeydd godidog dros y gors, Moryd Tywyn, a draw i Bwynt Whiteford a Phen-bre.
- Mae arwyddion Llwybr yr Arfordir yn arwain drwy bentref Landimôr a thir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Bovehill ac yna ar hyd ochr y gors islaw North Hill Tor.
- Pan gyrhaeddwch y pwynt lle mae Llwybr yr Arfordir yn rhannu’n llwybr Llanw Uchel a llwybr Llanw Isel, dilynwch y llwybr Llanw Uchel sy’n troi i’r chwith ac yn arwain i fyny’r rhiw tuag at Cheriton.
- Mae arwyddion Llwybr yr Arfordir yn arwain at lôn, lle’r ydych chi’n troi i’r dde ac yn dilyn y lôn at y ffordd.
- Ar y ffordd, trowch i’r dde a cherdded yn ofalus i lawr y rhiw am o ddeutu 100 llath i gyrraedd eglwys Sant Cadog yn Cheriton ar y dde.
