map cerdded Oxwich i Ben-rhys

Cyfarwyddiadau’r llwybr

  1. Gan adael mynwent yr eglwys yn Oxwich, dilynwch y llwybr i bentref Oxwich ac ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd.
  2. Ar ôl tua 300 llath, tua diwedd y pentref, trowch i’r dde wrth yr arwydd Llwybr Cyhoeddus. Dilynwch y llwybr cul rhwng dau eiddo, sy’n arwain at gae (dros bont gyda gât ar y naill ochr a’r llall).
  3. Parhewch yn syth ar draws y cae hwn a’r nesaf, gan ddilyn y gwrych ar yr ochr dde.
  4. Yn y trydydd cae, anelwch at gamfa yn y gornel bellaf. Mae arwydd Llwybr Cyhoeddus yma.
  5. Croeswch y gamfa ac ewch yn syth ymlaen drwy’r coed am o ddeutu 30 llath, tan i’r llwybr droi i’r chwith.
  6. Dilynwch y llwybr hwn i fyny’r rhiw drwy’r coed tan i chi gyrraedd camfa ar y dde.
  7. Croeswch y gamfa a dilynwch yr arwydd Llwybr Cyhoeddus drwy’r cae, a all fod yn fwdlyd iawn.
  8. Ar gornel chwith uchaf y cae, croeswch y gamfa a dilynwch y lôn i fyny’r rhiw, gyda gwrych ar y chwith a ffens wifren ar y dde.
  9. Ar ben y lôn, dilynwch yr arwydd Llwybr Cyhoeddus i’r chwith ar hyd y lôn i gyrraedd Eglwys Pen-rhys.

%d bloggers like this: