Cyfarwyddiadau’r llwybr
- Gan adael mynwent eglwys Pen-maen, trowch i’r dde a chroesi ffordd brysur De Gŵyr (A4118) yn ofalus, gan fynd syth ar draws a dilyn y ffordd gul o’ch blaen.
- Ewch i’r chwith drwy fynedfa Parc Gwyliau Three Cliffs a pharhewch yn syth ymlaen, drwy gât at drac llydan.
- Parhewch ar hyd y trac, a throi i’r chwith ar y gyffordd ar waelod y rhiw, gydag arwydd Parkmill.
- Cyn cyrraedd y brif ffordd, ceir carreg ar draws y trac. Dilynwch y llwybr i’r dde, ag arwydd Southgate.
- Croeswch y bont dros y nant, ewch i fyny’r stepiau, a throi i’r chwith ar y top. Anwybyddwch y bont ar y chwith sy’n arwain at Parkmill a Siop Shepherd’s. (Ceir caffi yma os oes angen lluniaeth.) Fe welwch Gapel Mynydd Pisgah sydd â Chanolfan Wybodaeth i Dwristiaid ar draws y ffordd.
- Parhewch ar hyd y llwybr sy’n gyfochrog â’r brif ffordd tan i chi gyrraedd ffordd fach (Sandy Lane) ger y gyffordd â’r brif ffordd.
- Croeswch Sandy Lane, ac yna’r bont i’r chwith dros y nant at y brif ffordd.
- Croeswch y brif ffordd yn ofalus a dilyn y ffordd i’r dde am 30 llath at gât ar y chwith, sy’n arwain at Gwm Llanilltud Gŵyr.
- Dilynwch y llwybr i fyny drwy’r cwm, heibio i adfail Eglwys y Bedyddwyr Llanilltud Gŵyr ar y dde. Hon oedd Eglwys gyntaf y Bedyddwyr i’w chofnodi yng Nghymru, ac mae iddi hanes diddordol yn dyddio’n ôl i 1649.
- Parhewch ar y llwybr gan groesi 7 pont, tan i chi gyrraedd mynwent Eglwys Llanilltud Gŵyr. (DS Anwbyddwch lwybr a nodir i’r chwith dros bont, sy’n arwain at bentref Lunnon.)
