Cyfarwyddiadau’r llwybr
- O fynwent eglwys Pennard, croeswch y ffordd o Bennard i Southgate yn ofalus a cherdded i lawr y ffordd fach gyferbyn, ag arwydd Widegate.
- Wrth arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Cwm Llandeilo Ferwallt, dilynwch y llwybr yn syth i’r cwm.
- Ar gyffordd y llwybrau, ewch i’r chwith, croesi’r bont a dilyn yr arwyddobost i Pyle.
- Parhewch ar hyd y trac hwn (sy’n arwain at Pyle Corner), tan i chi fynd hebio i Fferm Backingstone a Chapel House ar y chwith. Ar ôl tua 50 llath, cyn i’r trac eich arwain i fyny’r rhiw, trowch i’r chwith drwy gât fetel wrth arwydd Llwybr Cyhoeddus. Wrth i chi droi fe welwch adfail adeilad yn y cae gyferbyn gyda tho rhychiog.
- Wrth yr arwydd llwybr troed melyn, ewch ar y llwybr i’r chwith, gan fynd heibio i arwydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Cwm Llandeilo Ferwallt.
- Cerddwch i lawr y stepiau ac ar gyffordd o lwybrau, ewch i’r dde i fyny’r rhiw ychydig.
- Ar frig y rhiw, ewch drwy’r gât a dilynwch y llwybr i Landeilo Ferwallt. I’r chwith o’r llwybr ceir cwymp serth i’r cwm islaw.
- Ar ôl 2 gât arall, croeswch y cae o’ch blaen, gan gadw’n gyflinellol â llinell y gwrych ar yr ochr chwith, ac ewch drwy’r gât ar ben draw’r cae.
- Yn y gyffordd gyntaf o lwybrau, trowch i’r chwith drwy’r gât ac yn syth i’r dde i fyny rhiw fach.
- Wrth y gât nesaf, dilynwch y llwybr drwy ddau gae at gât arall sy’n arwain i mewn i gae.
- Cerddwch drwy’r cae hwn a gadael drwy’r gât i gerddwyr ar ochr dde gât y fferm.
- Ar y groesffordd sydd â thrac lletach, parhewch yn syth ymlaen.
- Pan gyrhaeddwch y tai (mae Prospect House ar y dde), trowch i’r chwith a dilyn y llwybr i lawr y rhiw.
- Wrth y gyffordd, ger tŷ o’r enw Hillside, dilynwch y trac i lawr y rhiw sydd wedi’i farcio ‘pedestrian access only – no vehicle access’.
- Cyn gatiau dwbl Brynllan, wrth yr arwydd Llwybr Cyhoeddus ar y chwith, dilynwch y llwybr tarmac i lawr y rhiw i mewn i fynwent eglwys Llandeilo Ferwallt.
