map cerdded Pen-rhys i Reynoldston

Cyfarwyddiadau’r llwybr

  1. Gan adael mynwent yr eglwys ym Mhen-rhys, trowch i’r dde ar draws y llain ac yna dilynwch y ffordd i’r dde ac i lawr y rhiw.
  2. Wrth i’r ffordd droi i’r dde, dilynwch yr arwydd llwybr cyhoeddus ar y chwith, drwy gât mochyn.
  3. Dilynwch y llwybr i lawr drwy’r goedwig.
  4. Wrth y gyffordd â thrac y goedwig, trowch i’r dde ar hyd y trac. (Mae postyn gydag arwydd llwybr cyhoeddus ar y pwynt hwn.)
  5. Cymerwch yr ail drac ar y chwith, ar ôl croesi nant.
  6. Dilynwch y trac hwn i fyny’r rhiw a thrwy gât, lle ceir arwydd ‘Natural Resources Wales – Mill Wood’.
  7. Parhewch ar hyd y trac hyd at brif ffordd De Gŵyr (A4118) a chroeswch yn ofalus.
  8. Dilynwch y ffordd fach i Reynoldston. Gallwch gerdded ar ymyl glaswellt ar y dde am y rhan fwyaf o’r ffordd.
  9. Ar y gyffordd-T, ar ôl y gysgodfan bws ar y dde, trowch i’r chwith ac yna bron ar unwaith i’r dde (arwydd Llangynydd, Burry Green a Fairyhill). Byddwch yn ofalus yma wrth groesi’r ffordd, gall fod yn brysur.
  10. Wrth Swyddfa Bost Reynoldston, trowch i’r chwith. Mae Capel Methodistaidd Reynoldston ar y gornel gyferbyn.
  11. Cerddwch i lawr y rhiw a throwch i’r dde wrth y gyffordd-T. Mae Eglwys Sant Siôr ar yr ochr dde.
%d bloggers like this: