Cyfarwyddiadau’r llwybr
- Gan adael y fynwent ym Mhorth Einon, trowch i’r chwith a dilyn y ffordd o amgylch i lan y môr ac yna trowch i’r chwith o flaen y siopau.
- Dilynwch lwybr yr arfordir, sydd ar lwybr bordiau yn bennaf, i Horton.
- Parhewch ar hyd llwybr yr arfordir i Slade, lle ceir dargyfeiriad byr i mewn i’r tir oherwydd erydu arfordirol.
- Pan fyddwch yn ôl ar lwybr yr arfordir, parhewch heibio i Holy’s Wash ac o amgylch Pwynt Oxwich.
- Yna mae’r llwybr yn arwain drwy’r coed, gyda rhiw serth i’r brig i osgoi’r hen waith chwarel.
- Ar gyffordd 4 ffordd ag arwyddion, ewch ar hyd y llwybr i’r dde wedi’i farcio Traeth Oxwich (nid y llwybr yn syth ymlaen sy’n nodi Oxwich) i lawr stepiau serth drwy’r coed i gyrraedd eglwys Oxwich.
Nodwch: mae dewis arall byrrach ar ôl y dargyfeiriad yn Slade drwy fynd i fyny’r ffordd yn Slade ac yna ddilyn y ffordd i lawr drwy Lain Oxwich i bentref Oxwich a’r eglwys.
