Cyfarwyddiadau’r llwybr
- Gan adael mynwent eglwys Reynoldston, trowch i’r chwith, yna cymerwch y troad cyntaf i’r chwith a dilyn y ffordd i fyny at y gyffordd, gyda Chapel Methodistaidd Reynoldston a Swyddfa’r Post ar y dde.
- Croeswch y ffordd a dilyn y llybr i fyny’r rhiw, heibio i garreg farcio Llwybr Gŵyr, tuag at Gefn Bryn.
- Ar y gyffordd â thrac llydan tuag at frig y bryn, dilynwch y trac i’r dde tan i chi gyrraedd y ffordd.
- Croeswch y ffordd yn ofalus – gall fod yn brysur iawn, yn enwedig yn yr haf.
- Parhewch ar hyd y trac gan fynd heibio i garreg farcio arall Llwybr Gŵyr, ac ewch yn syth ymlaen ar groesffordd.
- Wrth y garreg farcio Llwybr Gŵyr nesaf (mae rhif 11 wedi’i gerfio ar yr ochr dde) trowch i’r dde a dilyn y trac llydan i lawr y rhiw.
- Wrth y ffordd, trowch i’r dde. Ar ôl y tŷ olaf ar y chwith, parhewch ar y llwybr heibio i arwydd llwybr cyhoeddus melyn ar y chwith.
- Parhewch ar y llwybr, a all fod â llawer o fwd a thyfiant, tan i chi gyrraedd gât sy’n arwain at Fferm Parsonage.
- Ewch drwy’r gât a throi i’r chwith ar ôl y tŷ fferm. Parhewch i lawr dreif y fferm at gât mochyn sy’n arwain yn syth at Ffordd brysur De Gŵyr (A4118). Trowch i’r dde, cerdded yn ofalus ar hyd y ffordd am o ddeutu 50 llath, yna croeswch y ffordd i fynd i fynwent Eglwys Sant Nicholas, Nicholaston.
