Cyfarwyddiadau’r llwybr
- O fynwent eglwys Rhosili, trowch i’r chwith ar hyd y llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd, i’r chwith i’r maen hir.
- Ewch drwy’r gât ac i fyny’r rhiw i’r dde i’r Tŷ Roced.
- Dilynwch arwyddion Llwybr Gŵyr i fyny’r rhiw i gyfeiriad Rhos Rhosili ac i’r dde o amgylch y wal.
- Parhewch ar hyd y wal, gan basio cronfa orchuddedig ar y chwith, ac yna dilynwch arwydd Llwybr Gŵyr heibio i Fferm Fernhill ar y dde ac ar hyd trac y fferm.
- Ewch drwy’r gât nesaf a throwch i’r dde, lle gwelwch chi garreg farcio Llwybr Gŵyr.
- Dilynwch y trac heibio i adfail ffermdy Kingshall, tan i chi fynd drwy gât i mewn i gae.
- Ewch yn groes ar draws y cae i’r gornel gyferbyn, yna dilynwch y trac heibio i Hen Ffermdy Henllys.
- Mae’r trac yn parhau at gât, gyda fferm Henllys Newydd ar y chwith. Ewch drwy’r gât, gyda charreg farcio Llwybr Gŵyr ar y chwith.
- Ar ôl tua hanner milltir, mae Eglwys Llanddewi ar y chwith.
