map cerdded Wernffrwd i Llanrhidian

Cyfarwyddiadau’r llwybr

  1. Dechreuwch wrth gât yr eglwys a throwch i’r chwith. Cadwch ar y ffordd hon am 1.8 milltir tan i chi gyrraedd fforch yn y ffordd yn Llanrhidian. Gwyrwch i’r chwith heibio i Dafarn y Dolphin ar y dde, nad yw ar agor, ac ar y chwith mae’r Welcome Country Pub and Kitchen sydd ar agor ac yn gweini bwyd.
  2. Cerddwch i fyny’r rhiw am 50 llath ac mae mynedfa’r eglwys ar y dde heibio i hen “garreg chwipio” ar y llain.
    GWYBODAETH Os ydych chi ar daith gerdded diwrnod ac wedi cyrraedd y diwedd gallwch gerdded i fyny rhiw at gyffordd gyda’r B 4295 sydd ar lwybr bws 116, a all fynd â chi’n ôl i Ben-clawdd. Mae gorsaf betrol Heron’s Way yn lle cyfleus i gael bwyd a diod.
%d bloggers like this: