
Hyd y cam: 0.8 milltir Amser: tua 20 munud Lefel: Hawdd
Mae hon yn rhan fer ar hyd ffordd dawel, ond dylid bod yn ofalus.
Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS450931 Cod post SA3 1BY
Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA
Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.
Parcio: Yn Cheriton ceir lle parcio cyfyngedig iawn ar ochr y ffordd. Yn Llanmadog, wrth i chi agosáu at eglwys Sant Madog, gwyrwch i’r dde, arwydd Cwm Ivy. Mae maes parcio Traeth Whiteford ychydig o ffordd ymlaen ar y dde
Cyfle Lluniaeth Posibl: Llanmadog: The Britannia Inn, y Siop Gymunedol a’r Cwm Ivy Cafe (i lawr y rhiw o’r eglwys)
Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Cadog, Cheriton cliciwch YMA neu am Sant Madog, Llanmadog cliciwch YMA.
Mae logo’r bererindod ar y garreg ar y chwith a ddangosir yn hanes manwl Eglwys Llanmadog.
