Llanmadoc i Langynydd

Hyd y cam: 5.4 milltir Amser: tua 3 awr Lefel: Canolig
Unwaith eto mae’r rhan hon yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru am ran helaeth o’r daith. Mae’r amser yn caniatáu ar gyfer ymweliad byr ag ynys llanw Burry Holms. Gellir ymweld â’r ynys am o ddeutu 2.5 awr cyn ac ar ôl y llanw isel, ond holwch am gyngor os nad ydych chi’n cerdded fel rhan o grŵp sydd wedi’i drefnu.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS438934 Cod post SA3 1DE

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Yn Llanmadog, wrth i chi agosáu at eglwys Sant Madog, gwyrwch i’r dde, arwydd Cwm Ivy. Mae maes parcio Traeth Whiteford ychydig o ffordd ymlaen ar y dde. Yn Llangynydd ceir parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd y tu allan i fynedfa mynwent yr eglwys.

Cyfle Lluniaeth Posibl:Yn Llanmadog mae The Britannia Inn, y Siop Gymunedol a Cwm Ivy Cafe (i lawr y rhiw o’r eglwys) ac yn Llangynydd, The King’s Head

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Madog, Llanmadog cliciwch YMA neu am Sant Cennydd, Llangynydd cliciwch YMA.
Mae logo’r bererindod ar y garreg ar y chwith a ddangosir yn hanes manwl Eglwys Llanmadog.

%d bloggers like this: