
Hyd y cam: 4.8 milltir Amser: 2 awr Lefel: Canolig
Gall y rhan hon fod yn fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr.
Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS460890 Cod post SA3 1AU
Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA
Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.
Parcio: Mae lle i barcio y tu allan i eglwys Llanddewi a maes parcio cyhoeddus mawr ym Mhorth Einon
Cyfle Lluniaeth Posibl: Ceir tafarn, caffis a thoiledau cyhoeddus ym Mhorth Einon, ond dim cyfleusterau yn Llanddewi.
Eglwysi: I gael gwybodaeth am Ddewi Sant Llanddewi cliciwch YMA neu am Sant Catwg Porth Einon cliciwch YMA
