Llwybrau a Map (Seiclo)

© OpenStreetMap contributors

Mae’r llwybr seiclo o ddeutu 42 milltir o hyd, wedi’i rannu’n 16 cam, gyda phob un yn cysylltu dwy o’r un deg saith o eglwysi Anglicanaidd Gŵyr. Bydd y camau cyntaf yn dilyn arfordir prydferth morfa heli gogledd Gŵyr cyn troi i’r de at dirwedd mwy garw de Gŵyr gyda chlogwyni calchfaen a thraethau tywod. Mae llawer o’r llwybr yn ffyrdd gwledig tawel ond mae rhai rhannau’n cynnwys yr A4118 a’r B4247. Yn ystod y tymor gwyliau mae’r rhain yn gallu bod yn hynod o brysur a dylid bod yn ofalus. Ar y cyfan mae penrhyn Gŵyr yn llwyfandir, 150–450 troedfedd (45–140 metr) o uchder, ac mae llawer o nentydd bach wedi torri dyffrynnoedd cul, ag ochrau serth ynddo. Yn anochel felly, bydd sawl achos o ddringo a disgyn serth ar hyd y llwybr.

Datblygwyd y llwybr seiclo gan Ian Davies, Ysgrifennydd cangen Abertawe a Gorllewin Cymru o Cycling UK. Mae llawlyfrau sy’n cynnwys mapiau a chyfarwyddiadau ar gyfer y llwybrau cerdded a
seiclo ar gael o’r Lamplighter Café, 90 Heol Llandeilo Ferwallt, Llandeilo Ferwallt, SA3
3EN, a hefyd o nifer o’r eglwysi ar hyd y llwybr.

Ceir cyfle am luniaeth ar hyd y ffordd:
Llanrhidian: The welcome Country Pub and Kitchen
Llanmadog: The Britannia Inn, y Siop Gymunedol a Cwm Ivy Cafe (i lawr y rhiw o’r eglwys)
Llangynydd: The King’s Head
Reynoldston: Gwesty King Arthur
Rhosili: The Lookout a Gwesty Worm’s Head
Porth Einon: The Ship Inn a The Smugglers Haunt
Oxwich: Gwesty Oxwich Bay a Siop Roddion Dunes
Canolfan Saethyddiaeth a Heboga Perriswood (ger eglwys Nicholaston)
Parkmill: The Gower Inn a Shepherd’s Shop
Llandeilo Ferwallt: Gwesty New Gower

I gael cyfarwyddiadau manwl am bob cam ynghyd â mapiau, cliciwch YMA

I gael fersiwn mwy cryno o’r cyfarwyddiadau heb fapiau, cliciwh YMA

%d bloggers like this: