Oxwich i Ben-rhys

Hyd y cam: 1.6 milltir Amser: 45 munud Lefel: Hawdd

Mae’r rhan hon weddol hawdd ei cherdded, er bod y tir yn gallu troi’n fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod defaid a gwartheg yn pori yn y caeau, felly mae angen bod yn ofalus, yn enwedig gyda chŵn.
Os ydych chi am osgoi’r tir gwlyb neu’r da byw, ffordd arall yw dilyn y ffordd i fyny drwy bentref Oxwich tan i chi gyrraedd cyffordd-T. Trowch i’r dde a dilyn y ffordd i’r gyffordd nesaf. Trowch i’r dde ar y troad nesaf, sy’n arwain at Eglwys Pen-rhys. Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd y ffordd.
Ceir toiledau cyhoeddus, gwesty a chaffis yn Oxwich.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS504861 Cod post SA3 1LS

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Mae gan Oxwich faes parcio mawr ar y traeth. Ym Mhen-rhys ceir rhywfaint o barcio cyfyngedig ger mynedfa mynwent yr eglwys.

Cyfle Lluniaeth Posibl:
Oxwich: Gwesty Oxwich Bay a cheir siop fach a chaffi hefyd yn gweini pysgod a sglodion. Does dim cyfleusterau ym Mhen-rhys.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Illtyd, Oxwich cliciwch YMA neu am Sant Andreas, Pen-rhys cliciwch YMA

%d bloggers like this: