Pen-rhys i Reynoldston

Hyd y cam: 2.2 milltir Amser: 1 awr Lefel: Hawdd
Mae’r rhan hon eithaf hawdd ei cherdded, drwy goedwig i ddechrau, yna ar hyd trac, gyda’r ail hanner ar hyd ffyrdd bach i mewn i Reynoldston. Byddwch yn ofalus wrth groesi ffordd brysur De Gŵyr, ac wrth gerdded ar hyd y ffordd fach i Reynoldston – gallwch gerdded ar ymyl glaswellt am y rhan fwyaf o’r ffordd.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS493879 Cod post SA3 1LN

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Ym Mhen-rhys ceir rhywfaint o le parcio cyfyngedig ger mynedfa mynwent yr eglwys. Gellir parcio ar y stryd yn Reynoldston ger y fynwent a hefyd ar ôl troi cornel y fynwent.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Does dim cyfleusterau ym Mhen-rhys, ond mae The King Arthur Inn, ar y Llain Uchaf yn Reynoldston, yn gweini bwyd.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Andreas, Pen-rhys cliciwch YMA neu am Sant Siôr, Reynoldston cliciwch YMA

%d bloggers like this: