
Hyd y cam: 4.5 milltir Amser: tua 2 awr Lefel: Canolig
Mae’r rhan hon yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru am y rhan fwyaf o’r llwybr. Byddwch yn cerdded ar dir cymharol wastad tan ar ôl pwynt Oxwich, lle ceir rhiw serth i fyny drwy’r coed ac yna riw serth i lawr at eglwys Oxwich.
Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS466853 Cod post SA3 1NN
Ceir toiledau cyhoeddus ym Mhorth Einon, Horton ac Oxwich, a gwestyau, tafarnau a chaffis ym Mhorth Einon ac Oxwich.
Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA
Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.
Parcio: Mae gan Borth Einon faes parcio mawr ar y traeth ar waelod y pentref. Mae gan Oxwich hefyd faes parcio mawr ar y traeth.
Cyfle Lluniaeth Posibl:
Porth Einon: The Ship Inn a The Smugglers Haunt
Oxwich: Gwesty Oxwich Bay a cheir siop fach a chaffi hefyd yn gweini pysgod a sglodion.
Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Catwg, Porth Einon cliciwch YMA neu am Sant Illtyd, Oxwich cliciwch YMA
