Wenrffrwd i Lanrhidian

Hyd y cam: 1.9 milltir Amser: tua 45 munud Lefel: Hawdd
Mae’r rhan hon yn hawdd iawn ei llywio, gan ei bod ar hyd ffordd fach (Marsh Road) sy’n cysylltu’r ddwy eglwys. Mae rhan o’r ffordd yn gallu bod dan ddŵr ar adegau o lanw uchel dros 8m. Os felly, ceir llwybr amgen drwy droi i’r chwith i fyny lôn at y B 4295. Yna dilynwch y palmant yr holl ffordd i Heron’s Way Llanrhidian. Cerddwch i lawr y rhiw at yr eglwys fydd ar y chwith.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS515942 Cod post SA4 3TR

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Yn Wernffrwd ceir ardal barcio fach gyferbyn â’r eglwys. Gellir parcio ar ochr y ffordd yn Llanrhidian y tu allan i fynedfa mynwent yr eglwys.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Llanrhidian – The Welcome Country Pub and Kitchen. Does dim cyfleusterau yn Wernffrwd.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Dewi Sant, Wernffrwd cliciwch YMA neu am Sant Rhidian a Sant Illtyd, Llanrhidian cliciwch YMA

%d bloggers like this: