Llanilltud Gŵyr i Bennard

Hyd y cam: 3.5 milltir Amser: 1 awr 45 munud Lefel: Canolig
Mae’r rhan hon yn cynnwys darn serth iawn i fyny Sandy Lane o Barkmill i Bennard. Mae’r tir yn gallu bod yn fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr. Mae’r llwybr yn cynnwys croesi ffordd brysur De Gŵyr (A4118), felly byddwch yn ofalus, yn enwedig gyda phlant.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS556903 Cod post SA2 7LD

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Mae maes parcio Talu ac Arddangos yn y Gower Inn Parkmill ac mae gan eglwys Pennard faes parcio pwrpasol gerllaw’r eglwys.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Nid oes cyfleusterau yn Llanilltud Gŵyr nac yn agos i eglwys Pennard, ond mae’r Gower Inn Parkmill ar y ffordd, ar ddechrau Cwm Llanilltud Gŵyr.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Illtyd, Llanilltud Gŵyr cliciwch YMA neu am y Santes Fair, Pennard cliciwch YMA

%d bloggers like this: