Nicholaston i Ben-maen

Hyd y cam: 1.3 milltir Amser: 40 munud Lefel: Hawdd
Mae’r rhan hon eithaf hawdd ei cherdded, er bod y tir yn gallu bod yn fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr. Mae 50 llath gyntaf y rhan hon ar hyd ffordd brysur De Gŵyr (A4118), felly byddwch yn ofalus, yn enwedig gyda phlant.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS512884 Cod post SA3 2HL

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Yn Nicholaston, ceir maes parcio bach iawn gydag ychydig mwy o le mewn cilfan i’r gorllewin i’r eglwys a hefyd ychydig o le i’r dwyrain ar ochr arall y ffordd. Mae digonedd o le i barcio ym Mhen-maen. Mae angen mynd ar hyd y ffordd fach ger ochr yr eglwys, croesi’r grid gwartheg a pharcio ar y comin ar y dde.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Does dim cyfleusterau yn Nicholaston. Ceir meysydd pebyll ym Mhen-maen, ond dim cyfleusterau cyhoeddus eraill.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Nicholas, Nicholaston cliciwch YMA neu am Sant Ioan Fedyddiwr, Pen-maen cliciwch YMA

%d bloggers like this: