
Hyd y cam: 2.8 milltir Amser: 1 awr 30 munud Lefel: Hawdd
Mae’r rhan hon eithaf hawdd ei cherdded, er bod y tir yn gallu bod yn fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr. Mae’r llwybr yn cynnwys croesi ffordd brysur De Gŵyr (A4118), felly byddwch yn ofalus, yn enwedig gyda phlant.
Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS531887 Cod post SA3 2HQ
Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA
Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.
Parcio: Mae digonedd o le i barcio ym Mhen-maen. Mae angen mynd ar hyd y ffordd fach ger ochr yr eglwys, croesi’r grid gwartheg a pharcio ar y comin ar y dde. Hefyd mae maes parcio Talu ac Arddangos yn y Gower Inn Parkmill ond parcio cyfyngedig ar y stryd yn unig ger mynwent eglwys Llanilltud Gŵyr.
Cyfle Lluniaeth Posibl: Ceir meysydd pebyll ym Mhen-maen, ond dim cyfleusterau cyhoeddus eraill. Nid oes cyfleusterau yn Llanilltud Gŵyr, ond mae’r Gower Inn Parkmill ar y ffordd, ar ddechrau Cwm Llanilltud Gŵyr.
Eglwysi: I gael gwybodaeth Sant Ioan Fedyddiwr, Pen-maen cliciwch YMA neu am Sant Illtyd, Llanilltud Gŵyr cliciwch YMA
