Pen-clawdd i Wernffrwd

Hyd y cam: 2.8 milltir Amser: 60 munud Lefel: Hawdd (heb gynnwys y darn serth wrth gerdded o flaendraeth Pen-clawdd i Eglwys Sant Gwynour)
Ar drafnidiaeth gyhoeddus gallwch fynd ar fws 116 i gyrraedd yn agos at Sant Gwynour gan ddod oddi arno lle mae Victoria Road yn cwrdd â Blue Anchor Road. Cerddwch i fyny’r rhiw a throi i’r chwith i Llanyrnewydd a bydd yr eglwys ar ben draw’r ffordd. Nodwch fod y bws yn teithio drwy’r pentref ac yn cylchu i fyny at Sant Gwynour ac yn ôl i lawr i Ben-clawdd.
Os byddwch yn cyrraedd â char gallwch barcio ar y blaendraeth ym Mhen-clawdd drwy’r dydd am ddim. Gall bws rhif 116 ddod â chi’n ôl yma os ydych chi’n gwneud taith diwrnod.
I gerdded i fyny at Sant Gwynour (gweler y dotiau glas ar y map), ewch allan o’r maes parcio i’r chwith ar ffordd B 4295. Cerddwch drwy droeon dwbl gyda’r efail ar y dde i chi. Ar y troad olaf cerddwch yn syth ymlaen at ffordd fer ddienw.
Mae hon yn gorffen mewn llwybr troed serth â chanllaw. Mae’n agor allan ar Ben y Lan. Dilynwch y ffordd hon am 200 llath tan iddi ddod i frig, lle byddwch chi’n mynd ar y ffordd serth ddienw ar y dde sy’n mynd i fyny at Victoria Road. Ar y pen trowch i’r chwith ar ffordd am o ddeutu 100 llath tan i chi weld stepiau ar y dde.
Bydd y stepiau hyn yn mynd â chi i Caban Isaac Road. Ar y diwedd parhewch yn syth ymlaen i Llanyrnewydd ac mae Sant Gwynour ar waelod y rhiw.

Man cychwyn: Llanyrnewydd (Sant Gwynour): Cyfeirnod Grid: SS548948 Cod post SA4 3JH

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Ym Mhen-clawdd (Llanyrnewydd) ceir ardal barcio fach ger y mynediad i fynwent yr eglwys a gellir parcio ar y stryd yn yr ystâd dai gyferbyn. Hefyd ceir maes parcio mawr am ddim ar lan y môr ym Mhen-clawdd, sydd ond yn 10 munud o gerdded o Lanyrnewydd
Mae gan Wernffrwd ardal barcio fach gyferbyn â’r eglwys.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Ceir caffi, parlwr hufen iâ, tafarn, siop pysgod a sglodion dda iawn ac archfarchnad ganolig ei maint ym Mhen-clawdd, ond does dim cyfleusterau yn Wernffrwd

Eglwysi: I gael gwybodaeth am eglwys Sant Gwynor Pen-clawdd (Llanyrnewydd) cliciwch YMA neu ar gyfer Dewi Sant Wernffrwd cliciwch YMA

%d bloggers like this: