
Hyd y cam: 2.5 milltir Amser: 1 awr 15 munud Lefel: Canolig
Mae llwybrau Cwm Llandeilo Ferwallt yn gallu bod yn fwdlyd iawn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr. Mae’r llwybr yn cynnwys croesi ffordd brysur De Gŵyr (A4118), felly byddwch yn ofalus, yn enwedig gyda phlant.
Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS565887 Cod post SA3 2EA
Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA
Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.
Parcio: Mae gan eglwys Pennard faes parcio di-dâl pwrpasol gerllaw’r eglwys. Mae lle i barcio yn Llandeilo Ferwallt y tu allan i’r fynedfa isaf i’r fynwent.
Cyfle Lluniaeth Posibl: Does dim cyfleusterau yn agos i Eglwys Pennard, ond ceir tafarnau a chaffis yn Llandeilo Ferwallt gan gynnwys Gwesty New Gower ger eglwys Llandeilo Ferwallt.
Eglwysi: I gael gwybodaeth am y Santes Fair, Pennard cliciwch YMA neu am Sant Teilo, Llandeilo Ferwallt cliciwch YMA
