Reynoldston i Nicholaston

Hyd y cam: 3.3 milltir Amser: 1 awr 30 munud Lefel: Canolig
Mae’r rhan hon yn dechrau drwy ddringo’n eithaf serth i fyny i Gefn Bryn, ond ar ôl hynny mae’n wastad neu ar i lawr. Gall llethrau is Cefn Bryn fod yn fwdlyd, felly argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio esgidiau gwrth-ddŵr.
Mae 50 llath olaf y rhan hon ar hyd ffordd brysur De Gŵyr (A4118), felly byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd y ffordd, yn enwedig gyda phlant. Os ydych chi am osgoi hyn, peidiwch â chymryd y llwybr i lawr i Nicholaston wrth ymyl carreg farcio 11 Llwybr Gŵyr, ond yn lle, ewch ymlaen ar hyd y llwybr llydan i gyrraedd Pen-maen.

Man cychwyn: Cyfeirnod Grid SS479900 Cod post SA3 1AA

Map a Chyfarwyddiadau: Cliciwch YMA

Trafnidiaeth: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bws perthnasol ewch i https://swanseabaywithoutacar.co.uk/downloads-timetables/
New Adventure Travel sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o lwybrau bws Gŵyr. Caiff llwybr 14 ar gyfer Llandeilo Ferwallt a Pennard ei weithredu ar y cyd gan New Adventure Travel a First Cymru.

Parcio: Gellir parcio ar y stryd yn Reynoldston ger y fynwent a hefyd ar ôl troi cornel y fynwent. Yn Nicholaston, ceir maes parcio bach iawn gydag ychydig mwy o le mewn cilfan i’r gorllewin i’r eglwys a hefyd ychydig o le i’r dwyrain ar ochr arall y ffordd.

Cyfle Lluniaeth Posibl: Mae The King Arthur, ar Lain Uchaf Reynoldston, yn gweini bwyd, ond does dim cyfleusterau yn Nicholaston.

Eglwysi: I gael gwybodaeth am Sant Siôr, Reynoldston cliciwch YMA neu am Sant Nicholas, Nicholaston cliciwch YMA

%d bloggers like this: