
Mae llawlyfrau sy’n cynnwys mapiau a chyfarwyddiadau ar gyfer y llwybrau cerdded a
seiclo ar gael o’r Lamplighter Café, 90 Heol Llandeilo Ferwallt, Llandeilo Ferwallt, SA3
3EN, a hefyd o nifer o’r eglwysi ar hyd y llwybr.
Rhan 1: Pen-clawdd i Lanrhidian
(4.7 milltir, 1 awr 45 munud, lefel: Hawdd)
Cam 1: Pen-clawdd i Wernffrwd
Cam 2: Wernffrwd i Lanrhidian
Rhan 2: Llanrhidian i Langynydd
(10.2 milltir, 5 awr 20 munud, lefel: Hawdd i Ganolig)
Cam 1: Llanrhidian i Cheriton
Cam 2: Cheriton i Lanmadog
Cam 3: Llanmadog i Langynydd
Rhan 3: Llangynydd i Borth Einon
(11 milltir, 4 awr 50 munud, lefel: Canolig)
Cam 1: Llangynydd i Rosili
Cam 2: Rhosili i Landdewi
Cam 3: Llanddewi i Borth Einon
Rhan 4: Porth Einon i Benmaen
(12.9 milltir, 5 awr 55 munud, lefel: Canolig yn bennaf)
Cam 1: Porth Einon i Oxwich
Cam 2: Oxwich i Ben-rhys
Cam 3: Pen-rhys i Reynoldston
Cam 4: Reynoldston i Nicholaston
Cam 5: Nicholaston i Benmaen
Rhan 5: Pen-maen i Landeilo Ferwallt
(8.8 milltir, 4 awr 30 munud, lefel: Canolig yn bennaf)
Cam 1: Pen-maen i Lanilltud Gŵyr
Cam 2: Llanilltud Gŵyr i Bennard
Cam 3: Pennard i Landeilo Ferwallt
Estyniadau posibl i’r llwybr
Mae hefyd yn bosibl cerdded o Eglwys Sant Teilo yn Llandeilo Ferwallt i’r tair eglwys a
ymunodd ag Ardal Weinidogaeth Gŵyr yn 2022 – Sant Hilary yng Nghilâ, Sant Martin
Nyfnant ac All Souls, Tycoch. Mae llwybr a awgrymir fel a ganlyn:
- Croeswch Ffordd De Gŵyr a dilynwch y llwybrau troed trwy Gomin Barland, Blackhills a Lôn Hen Parc i Gilâ Uchaf.
- Trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd Gower Road, yna cyn Comin Fairwood cymerwch y llwybr troed ar y dde y tu ôl i hen Ysbyty Fairwood, heibio Fferm Ddol i Fairwood Rd yn Nyfnant ac Eglwys Sant Martin.
- O Eglwys Sant Martin, cerddwch i lawr Heol Killan i sgwâr Dyfnant a dilynwch yr hen reilffordd/trac seiclo i’r Railway Inn, yna ar hyd Gower Road i Eglwys Sant Hilary yng Nghilâ.
- O Eglwys Sant Hilary, dilynwch Heol Gŵyr tuag at Abertawe, trowch i’r chwith wrth Pen yr Heol Drive ac i’r chwith i Harlech Crescent, gan gyrraedd Eglwys All Souls.
Posibilrwydd arall o Landeilo Ferwallt yw cerdded i bentref Y Crwys, trwy Gomin Barland,
Cilâ Uchaf a Dyfnant. Mae Capel yr Annibynwyr yn Y Crwys yw’r mwyaf yn Ngŵyr, yn
ennill iddo’r llysenw ‘Cadeirlan’ Gŵyr. O’r Crwys, gellir cyrraedd man cychwyn Llwybr
Pererindod Gŵyr yn Eglwys Sant Gwynour, Llanernewydd, ar hyd Llwybr Gŵyr a llwybrau
troed eraill.
